Partneriaeth Wirfoddoli Pobl Ifanc

High School pupils

Nod Partneriaeth Wirfoddoli’r Bobl Ifanc yw cynnig y modd i bobl ifanc 16 - 24 oed wirfoddoli yn Hosbis Ty’r Eos trwy ddulliau ystyrlon a gwella eu CV a’u gobaith o gael gwaith. Bydd gwirfoddolwyr sy’n cael eu derbyn i’r Rhaglen yn cael profiad yn gyntaf o gyfleoedd i wirfoddoli yng nghymuned yr hosbis yn fwy cyffredinol cyn ymgymryd â mathau eraill o waith yn yr hosbis.  Bydd y rhain yn cael eu hadolygu a’u newid bob tymor. Mae swyddogaethau’r gwirfoddolwyr yn cynnwys desg y dderbynfa, gweini prydau bwyd i’r cleifion a dyletswyddau cadw’r ty. Mae gofyn fel arfer i wirfoddolwyr gyfrannu 2 - 4 awr yr wythnos.

Mae Hosbis Ty’r Eos yn awyddus hefyd i groesawu grwpiau o ysgolion i wirfoddoli ar brosiectau wedi’u llunio’n arbennig yn cynnwys dosbarthu’r cylchlythyr a phrosiectau cynnal a chadw’r gerddi.

Gofynnir i’r gwirfoddolwyr lenwi Ffurflen Gais Gwirfoddolwr, cynnig dau eirda, mynd trwy brawf cofnodion troseddol a hyfforddiant sefydlu fel y bo’n briodol.

Bydd hyfforddiant cyflawn ar gyfer pob swyddogaeth sydd i’w chyflawni.

Am fwy o fanylion, mae croeso i chi gysylltu â:

Val Connelly, Rheolwr Cysylltiadau Gwirfoddolwyr
Ffôn: 01978 316811
E-bost: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Prosiect Gwirfoddolwyr y Mileniwm

Mae Prosiect Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn gweithredu ers 1999. Ers hynny mae mwy na 10,000 o bobl ifanc ledled Cymru wedi ymuno â’r prosiect ac erbyn hyn mae sefydliadau addysgol, cyflogwyr a’r gymuned yn gyffredinol ledled y DU gyfan yn ei gydnabod.

Pan fydd eu lleoliadau gwirfoddol yn Hosbis Ty’r Eos yn dechrau, mae gwirfoddolwyr rhwng 16 a 24 oed yn cael eu gwahodd i ymrwymo i wirfoddoli am gyfnod o amser (blwyddyn fel arfer) fel bod modd achredu’r oriau y maent yn eu cyfrannu. Mae tystysgrifau ar gael i wirfoddolwyr sy’n cwblhau 100 o oriau o wasanaeth. Bydd gwirfoddolwyr sy’n cwblhau 200 o oriau yn derbyn Gwobr Ragoriaeth wedi ei llofnodi gan Brif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Am fwy o fanylion, mae croeso i chi gysylltu â:

Val Connelly, Rheolwr Cysylltiadau Gwirfoddolwyr
Ffôn: 01978 316811
E-bost: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.