Pam gwirfoddoli

Volunteers in daycare

“Dwi’n mwynhau helpu pobl a gwneud ffrindiau newydd”

“Llenwi bwlch wedi ymddeol a theimlo’n ddefnyddiol”

“Dwi’n cael llawer iawn allan o wirfoddoli”

Un disgrifiad o wirfoddoli yw ei fod yr hyn y mae pobl yn penderfynu ei wneud gyda’u hamser hamdden, heb dâl, sy’n lles i bobl eraill ac yn cyfrannu at wasanaethau yn y gymuned. Yn Hosbis Ty’r Eos, mae gwirfoddolwyr yn cynnig amrywiaeth o fedrau a phrofiad er mwyn helpu i ddarparu gofal o’r radd flaenaf i’n cleifion a’u teuluoedd.  Mae pawb rhwng 16 a 75 mlwydd oed yn gallu gwirfoddoli yn Hosbis Ty’r Eos.

Yn y gymuned yn gyffredinol, mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu o’u hamser i godi arian yn y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu trwy gydol y flwyddyn.

Nid yr hyn yr ydych yn ei gyfrannu yn unig sy’n bwysig. Pan fyddwch yn gwirfoddoli byddwch yn cyfarfod pobl newydd, gwneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a dod yn aelod gwerthfawr o’r tîm. Diolch i chi am wneud cais am fod yn wirfoddolwr yn Hosbis Ty’r Eos.

Cyfleoedd i Wirfoddoli

Uned y Cleifion Mewnol

Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaeth i gleifion a’u hymwelwyr gyda thasgau fel gwneud diodydd, helpu i weini prydau bwyd a chadw’r wardiau yn daclus. Mae eistedd gyda chleifion a siarad neu ddarllen gyda hwy os ydynt yn dymuno hynny yn rhan o’r swyddogaeth hefyd.

Desg y Dderbynfa

Ein bwriad yw gofalu am y brif dderbynfa saith diwrnod yr wythnos gyda chyfnodau o waith ar gael yn y bore, y pnawn a’r hwyr. Mae’r dyletswyddau yn cynnwys ateb y ffôn, croesawu ymwelwyr a’u cyfeirio’n briodol, derbyn negesau, cadw llyfr yr ymwelwyr a gwerthu nwyddau yn ein siop fach.

Gofal Dydd

Mae gwirfoddolwyr yn helpu gyda thasgau cyffredinol, siarad gyda chleifion a gweini prydau bwyd.  Hefyd, mae gwirfoddolwyr yn cynnig gweithgareddau crefftau, therapïau harddwch a gwasanaethau trin gwallt.

Gyrwyr

Mae gyrwyr gwirfoddol yn cludo cleifion i’r Uned Gofal Dydd ac yn ôl. Mae mwy o gyfleoedd eto i yrwyr yn yr Adran Cynhyrchu Incwm i godi a danfon blychau casglu ledled y gymuned.

Siopau a Chanolfan Ddosbarthu’r Hosbis

Mae pob un o’n siopau yn gwerthu dillad, trugareddau a dodrefn y mae pobl wedi eu rhoi. Mae’r siopau yn codi arian hanfodol i Hosbis Ty’r Eos. Mae gwirfoddoli yn y siopau yn wych o ran dysgu sgiliau gwerthu ac mae’n bendant iawn yn medru gwella eich gobaith o gael gwaith yn y dyfodol.

Cynhyrchu Incwm

Mae’r Adran Cynhyrchu Incwm yn sicrhau bod arian i dalu’r gost o’n cynnal ni, er mwyn i’r gwasanaeth y mae’r hosbis yn ei gynnig fedru parhau. Mae cymryd rhan yn yr adran hon yn golygu llawer o wahanol fathau o waith yn cynnwys dosbarthu cylchlythyr Ty’r Eos a dyletswyddau gweinyddol cyffredinol.

Mae’r swyddogaethau yn cynnwys hefyd cymryd rhan yn unrhyw un o’r digwyddiadau niferus y mae’r adran yn eu trefnu ac mae’n wych o ran cyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mae’r swyddogaethau yn hyblyg iawn ac yn gofyn yn aml am gyfnodau cymharol fyr o amser, sy’n golygu eu bod yn gyfleoedd delfrydol i bobl gyfrannu o’u hamser pryd bynnag y maent yn gallu.