Hyfforddiant

Mae Hosbis Ty’r Eos wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant i’r gwirfoddolwyr, sy’n parhau ac yn briodol trwy gydol lleoliad y gwirfoddolwr.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod cyfle cyfartal i bob gwirfoddolwr o ran derbyn hyfforddiant a chymorth priodol.
Y Rhaglen Hyfforddi
Hyfforddiant
Mae gwirfoddolwyr newydd yn derbyn sesiwn sefydlu gyffredinol ynghylch nature a dibenion Hosbis Ty’r Eos ynghyd â manylion y gofynion Diogelwch Tân, Iechyd a Diogelwch a Symud a Thrin.
Hyfforddiant Sefydlu Ychwanegol
Trefnir sesiynau ar gyfer gwirfoddolwyr gyda swyddogaethau penodol yn yr Hosbis ac maent yn cynnwys cyrsiau Rheoli Haint a Hylendid Bwyd.
Dynodi Cymorth
Mae’r cymorth i’r gwirfoddolwyr yn barhaol a bydd ar gael o ddechrau’r lleoliad. Bydd dynodi Mentor Gwirfoddoli yn fodd i wirfoddolwyr drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt ynglyn â’r gwaith.