Gwneud Cais i Fod yn Wirfoddolwr

I wneud cais i fod yn wirfoddolwr, lawrlwythwch y dogfennau Ffurflen Gais Gwirfoddolwr (293kB, .doc), Ffurflen Cyfle Cyfartal Gwirfoddolwyr (28kB, .doc) a Chytundeb Cyfrinachedd y Gwirfoddolwr (58kB, .doc) a dychwelyd y tair ffurflen wedi’u llenwi i:
Val Connelly
Rheolwr Cysylltiadau Gwirfoddolwyr
Hosbis Ty’r Eos
Ffordd Caer
Wrecsam
LL11 2SJ
Ffôn: 01978 316811
E-bost:
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Mae gofyn i chi gynnig dau eirda. Dylai’r rhain gynnwys tystlythyr gwaith / ysgol / proffesiynol ac ail dystlythyr gan rywun sy’n eich adnabod ers mwy na dwy flynedd.
Wedi eich cyfweliad, prawf cofnodion troseddol (os yw’n briodol) a’ch hyfforddiant sefydlu fe gewch eich penodi i’ch swyddogaeth wirfoddol. Byddwn yn trefnu eich gwaith o gwmpas yr amserau y byddwch ar gael ond mae’n bwysig iawn eich bod mor ddibynadwy ag y bo modd. Cofiwch gysylltu â’ch goruchwyliwr uniongyrchol cyn gynted ag y gallwch os nad ydych yn gallu dod i’ch gwaith.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n tîm gwirfoddol.