Cymorth profedigaeth a chymdeithasol

Mae tîm gwaith cymdeithasol yr hosbis yn cynorthwyo pobl i ddod trwy gyfnodau helbulus yn eu bywyd. Byddant yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol a chyngor ariannol i bawb sydd wedi cael eu hatgyfeirio i’r hosbis.
Mae gofal a chymorth profedigaeth hefyd ar gael i aelodau teuluoedd pobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio i’r hosbis.
Mae gweithwyr cymdeithasol ar gael yn Nhy’r Eos - cliciwch yma er mwyn cael cyfarwyddiadau ynghylch sut i gyrraedd yr Hosbis. Gallwch gysylltu â hwy yn bersonol, dros y ffôn neu gydag e-bost
- Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
- Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
- Ffôn: 01978 316800
Os nad ydych chi nag aelod o’ch teulu wedi cael eich atgyfeirio i’r hosbis er mwyn cael triniaeth ond yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, cofiwch gysylltu â ni.
Lawrlwytho taflen wybodaeth am brofedigaeth a galar yn fformat pdf
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ofal profedigaeth gan Ofal Profedigaeth Cruse
Release – cymorth profedigaeth ar gyfer plant
Mae’r hosbis hefyd yn darparu Release, sef gwasanaeth cymorth profedigaeth ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc sydd o dan 19 oed ac sy’n byw yn y dalgylch. Byddwn yn derbyn atgyfeiriadau i wasanaeth Release o unrhyw ffynhonnell. Gall hyn gynnwys aelodau’r teulu, athrawon ysgol, nyrsys ysgol, Meddygon Teulu neu’r person ifanc ei hunan.
Lawrlwytho taflen wybodaeth Release yn fformat pdf
Cliciwch yma i gael gwybodaeth gan Winston’s Wish yr elusen ar gyfer plant profedigaethus
Dyfyniadau gan bobl eraill
“Mae ganddynt rywun y gallwch gael gair â hwy – rhywun nad yw’n aelod o’r teulu.”