Cyfleusterau’r hosbis

Front entrance to Nightingale House hospice

Y Dderbynfa

Fel arfer bydd desg y dderbynfa’n cael ei staffio gan wirfoddolwyr rhwng 9am a 8.30pm, o ddydd Llun i Gwener ac ar ddydd Sadwrn (am/pm) a dydd Sul (pm yn unig). Pan ddewch chi i mewn i’r adeilad, cofiwch sicrhau eich bod yn arwyddo’r gofrestru tân sydd ar ddesg y dderbynfa.

Oriau Ymweld

Mae gan yr hosbis bolisi ymweliadau agored, sy’n dibynnu ar ddymuniadau’r cleifion ac ym mha gyflwr y maent ar y pryd; mewn rhai amgylchiadau efallai mai dim ond y teulu agosaf fydd yn cael dod i weld y claf. Bydd pa mor addas yw’r amseroedd a faint mae’r ymweliadau’n para yn gallu newid; byddwch cystal â ffonio’r hosbis cyn cyrraedd er mwyn holi a yw hi’n briodol ichi ddod i weld y claf er mwyn ichi beidio â chael siwrneiau seithug.

Parcio

Cofiwch ddefnyddio’r cilfachau parcio neilltuol, a pheidiwch â gadael eich car ar y ffyrdd am ein bod yn gorfod gadael y ffordd yn glir ar gyfer cerbydau argyfwng. Rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i Gwener - maes parcio Ffordd Caer yw’r unig faes parcio sydd ar gael i’r ymwelwyr - nid yw’r maes parcio, y tu allan i oriau, ar gael yn ystod yr oriau hyn. Os ydych chi’n debygol o ddal i fod yno ar ôl 4pm byddwch cystal â symud eich car i Ffordd y Llwyni er mwyn ichi allu adael yn ddidrafferth yn nes ymlaen.

Os nad oes unrhyw leoedd parcio wrth yr hosbis cofiwch ofyn am gymorth er mwyn ichi gael gwybod lle gallwch chi barcio gerllaw. O ran cleifion neu ymwelwyr sydd â phroblemau symud o gwmpas, mae teuluoedd wastad yn gallu rhoi lifft iddynt, er mwyn eu gadael neu fynd i’w nôl wrth y drws ffrynt, cyn mynd i barcio oddi ar safle.

Y Tu Allan i Oriau – Rhwng 8.30pm a 9am o ddydd Llun i Gwener ac ar benwythnosau.

Os bydd ymwelwyr yn dod i’r uned cleifion mewnol dylent barcio yn y maes parcio sydd ar Ffordd y Llwyni (mynd allan trwy fynedfa Ffordd Caer yna troi i’r chwith ac yna i’r chwith eto wrth y goleuadau traffig). Byddwch cystal â galw’r intercom wrth y giât er mwyn i’r staff agor mynedfa’r uned cleifion mewnol sydd ar ochr dde mynedfa’r maes parcio. Os bydd y brif fynedfa wedi’i chloi ar unrhyw adeg cofiwch ddefnyddio Mynedfa Ffordd y Llwyni.

Llety Dros Nos

Mae gan yr hosbis gyfleusterau i aelodau’r teulu aros gyda’r cleifion yn yr uned cleifion mewnol. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael os bydd y nyrs â gofal yn caniatáu ac yn fodlon i hynny ddigwydd; caiff ei gyfyngu i’r teuluoedd hynny sydd wedi cael eu cynghori i aros gerllaw. Mae gwybodaeth am lety lleol ar gael gan yr hosbis.

Iechyd a Diogelwch a Diogelwch rhag Tân

Cofiwch ddarllen yr wybodaeth sydd yn y ffolderi gwybodaeth i gleifion er mwyn sicrhau eich diogelwch chi a diogelwch ein cleifion, gwirfoddolwyr a’n staff. Mae gan Ty’r Eos bolisi Dim Ysmygu ar gyfer y staff, y gwirfoddolwyr a’r ymwelwyr.

Diodydd a Phrydau Bwyd

Mae croeso i ymwelwyr wneud diodydd yn y gegin sydd yn rhan ganol yr uned cleifion mewnol.  Gwaetha’r modd ni allwn ddarparu prydau bwyd i ymwelwyr ond gallwn roi gwybodaeth os oes angen, am gaffis/bwytai neu archfarchnadoedd lleol. Byddwn yn hynod ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau ariannol at dalu am ddarparu te a choffi ac ati. Ceisiwch beidio â gwneud diodydd pan mae prydau’r cleifion yn cael eu gweini.

Siop

Mae siop fach ar gael yn y brif dderbynfa lle gallwch chi brynu diodydd a fferins ac mae ganddynt nwyddau ystafell ymolchi hefyd, ac yn y blaen, rhag ofn y byddwch chi wedi eu hanghofio. Sylwer: bydd y siop ar gau oni bai bod y brif dderbynfa ar agor.

Sylwadau, canmoliaeth neu gwynion

Byddwn yn hynod falch o gael canmoliaeth neu gwynion am y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i cleifion a’u teuluoedd.  Mae taflenni sylwadau a gwybodaeth hefyd am ein polisi a’n trefn gwyno i’w cael yn y ffolderi gwybodaeth sydd wrth bob gwely. Mae’r hosbis yn cymryd rhan mewn "Rwyf yn dymuno cael gofal gwych" sef archwiliad cenedlaethol ar fodlonrwydd cleifion a gofalyddion.

Diolch yn fawr am fod yn ddeallgar ac am eich cydweithrediad yn hyn o beth.