Uned ddydd

Mae’r Uned Ddydd ar gael i bobl dros 18 oed sydd ag afiechydon penodol cynyddol sy’n cyfyngu ar eu bywyd. Mae’n darparu therapi arbenigol am dymor byr, dros gyfnod o 6 - 12 wythnos.
Mae’r Uned Ddydd yn darparu gofal cyfannol sy’n hybu bywyd, sy’n cynorthwyo pobl i ymaddasu i’r afiechyd, ac sydd hefyd yn hybu eu hunanhyder. Bydd y bobl hynny sy’n dod i’r Uned Ddydd, yn cael gofal a chymorth gan weithwyr proffesiynol a hefyd gan bobl eraill a allai fod mewn sefyllfa debyg, neu sydd wedi cael profiad o hynny.
Caiff y gofal yn yr Uned Ddydd ei ddarparu gan dîm o bobl sy’n aelodau o sawl proffesiwn, ac mae pob un ohonynt yn arbenigwyr. Mae hyn yn cynnwys nyrsys a staff meddygol, gyrwyr ambiwlans, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion cyflenwol, gweithwyr cymdeithasol a chaplaniaid.
Lleolir yr Uned Ddydd yn Hosbis Ty’r Eos ac mae hi ar agor rhwng 10am - 3pm o ddydd Llun i Iau. Cliciwch yma er mwyn cael cyfarwyddiadau ynghylch sut i gyrraedd yr hosbis. Er mwyn cael gafael ar wasanaethau’r Uned Ddydd bydd yn rhaid ichi gael atgyfeirio yno gan eich Meddyg Teulu neu’ch Meddyg Ymgynghorol. Os nad ydych wedi cael eich anfon i’r hosbis er mwyn cael triniaeth ond yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, cofiwch gysylltu â ni.
Cwestiynau Cyffredin am yr Uned Ddydd
Sut allaf i gael fy atgyfeirio i’r hosbis?
Mae cleifion a theuluoedd yn gallu mynd draw i’r hosbis i gael gwybodaeth a chymorth, fodd bynnag os ydynt am gael gofal a gwasanaethau’r hosbis, mae’n rhaid ichi gael eich atgyfeirio yno gan eich meddyg teulu neu’ch meddyg ymgynghorol. Felly, efallai mai’ch meddyg teulu fydd y person hwn neu meddyg ymgynghorol y tîm sy’n arwain eich gofal yn yr ysbyty.
Gall yr atgyfeiriad gael ei wneud ar gyfer unrhyw un o wasanaethau’r hosbis, gofal cleifion mewnol, gofal dydd a chymorth i gleifion allanol yn ogystal â ffisiotherapi a hydrotherapi. Ar ôl i’r hosbis dderbyn yr atgyfeiriad bydd un o aelodau’r Tîm Cleifion Allanol yn cysylltu â chi a bydd e/hi yn egluro ichi beth y gallwch ddisgwyl ei gael pan ddewch chi i’r hosbis er mwyn cael eich asesiad cychwynnol.
Rydym wastad yn fodlon dangos i’r cleifion a’u teuluoedd yr amrywiaeth eang o gyfleusterau sydd i’w cael yn yr hosbis. Os hoffech chi neu’ch teulu fwrw golwg ar yr hosbis mae croeso ichi ein ffonio er mwyn trefnu dyddiad ac amser hwylus.