Uned cleifion mewnol

Mae’r Uned i Gleifion Mewnol ar gael i bobl dros 18 oed sydd ag afiechydon cynyddol penodol sy’n cyfyngu ar eu bywyd. Nod yr Uned Cleifion Mewnol yw hybu ansawdd bywyd y cleifion a’u teuluoedd trwy ddarparu gofal ac asesiadau arbenigol, cymorth i reoli symptomau’r afiechyd, a chymorth ac ymadferiad seicolegol. Ar ben hynny mae’r Uned Cleifion Mewnol yn darparu gofal ar ddiwedd bywyd.
Caiff y gofal yn yr Uned Cleifion Mewnol ei ddarparu gan dîm o arbenigwyr o sawl proffesiwn. Mae hyn yn cynnwys nyrsys a staff meddygol, gyrwyr ambiwlans, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol a chaplaniaid. Mae amrywiaeth o therapïau cyflenwol ar gael i’r cleifion hefyd.
Mae’r Uned Cleifion Mewnol wedi’i lleoli yn Hosbis Ty’r Eos ac mae hi ar agor bob awr o’r dydd, bob diwrnod o’r wythnos. Cliciwch yma er mwyn cael cyfarwyddiadau ynghylch sut i gyrraedd yr hosbis. Er mwyn cael gafael ar y gwasanaethau sydd ar gael yn yr Uned Cleifion Mewnol, bydd rhaid i’ch Meddyg Teulu neu’ch Meddyg Ymgynghorol anfon atgyfeiriad ar eich cyfer. Os nad ydych wedi cael eich anfon i’r hosbis er mwyn cael triniaeth, ond yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, cofiwch gysylltu â ni.
Bod yn glaf mewnol yn Hosbis Ty’r Eos
Taflen “Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl os ydych yn glaf mewnol” mewn format pdf