Therapïau cyflenwol

Mae Hosbis Ty’r Eos yn cynnig amrywiaeth o therapïau i’n cleifion ac o dro i dro, i’w perthnasau hefyd.
Ar ôl yr atgyfeiriad a’r asesiad cychwynnol, bydd y therapydd yn trefnu chwe apwyntiad triniaeth. Bydd pob therapydd yn dod i’r hosbis ar un diwrnod yr wythnos ac, fel y cyfryw, bydd gwahanol therapïau ar gael ar wahanol ddyddiau o’r wythnos.
Adweitheg
Ystwytho a thylino’r droed mewn modd tyner, ond systematig, yw adweitheg. Bydd hyn yn cynnwys pob un o’r adweithfannau wrth i’r droed gael ei thylino’n dyner mewn ffordd ymlaciol. Yn ôl llawer o gleifion mae adweitheg yn cynorthwyo i:
- Leihau pryder a straen
- Gwneud iddynt deimlo’n fwy ymlaciol
- Gwneud iddynt gysgu’n well
- Gwneud iddynt deimlo’n gyfforddus drwyddynt draw
Ymlacio
Therapi cyflenwol yw ymlacio. Gellir ei ddefnyddio yn ystod unrhyw afiechyd, straen neu anaf. Yn aml, bydd cleifion sy’n cael therapi ymlacio yn teimlo’n ymlaciol dros ben ac fe allai eu hagwedd at eu problem newid er gwell, a bydd hynny’n eu cynorthwyo i fyw bywyd o safon well.
Aromatherapi-dylino
Ystyr Aromatherapi yw therapi sy’n defnyddio “aromâu” (peraroglau). Daw’r “oglau da” o “olew naws” sydd i’w gael mewn planhigion, blodau, coed, llwyni a pherlysiau. Mae tylino ag olewau naws yn cael ei alw yn Aromatherapi-dylino; mae hyn yn defnyddio’r cyffwrdd a’r synnwyr arogleuo sydd wedi bod o fudd mawr wrth gynorthwyo i leddfu pryder ac iselder ysbryd a gyda rhai mathau o boen hefyd.
Therapi Tylino
Mae tylino’n ddull cyfathrebu ac yn grefft hynafol dros ben. Crefft cyffwrdd ydyw. Trwy gyffwrdd y person mewn modd tyner a rhythmig fe gysylltir â’r person drwyddo draw trwy’r corff. Bydd y symudiadau tyner dros y croen a’r cyhyrau yn annog meinweoedd y corff i adael i’r tyndra a’r straen fynd, ac annog y corff i ymlacio mewn modd dwys iawn. Mae dechrau a diwedd pendant iawn i therapi tylino, ac mae ganddo ganllawiau clir ynghylch beth mae’r driniaeth yn ei olygu; felly, yn aml, mae hynny’n golygu ei fod yn ffurf ddiogel ar gyffwrdd ar gyfer y bobl hynny y mae cyffyrddiad corfforol yn gwneud iddynt deimlo’n anesmwyth.
Reiki
Yn Nhibet y cychwynnodd Reiki, sy’n ffurf hynafol ar therapi iachau. Ystyr y gair Siapaneaidd hwn yw “egni bywydol byd-eang” neu egni sydd bobman o’n hamgylch.
O ganlyniad i’r driniaeth fe allai’r person deimlo llif o egni, teimlo fel pe bai’n cael ei oglais dipyn bach, cynhesrwydd, lled oerni neu ddim teimlad o gwbl. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dweud eu bod yn teimlo’n ddigynnwrf iawn ac yn ymlaciol ar ôl Reiki.