Therapi galwedigaethol

occ-therapy

Mae Therapi Galwedigaethol yn hybu lles ac annibyniaeth pobl o bob oedran.

Bydd Therapyddion Galwedigaethol yn gwerthuso’r ffactorau corfforol, seicolegol ac amgylcheddol sy’n lleihau’r gallu sydd gan unigolyn i gymryd rhan yn eu gweithgareddau beunyddiol.
Gweithwyr proffesiynol ym maes adfer yw therapyddion galwedigaethol, ac maent yn defnyddio triniaeth benodol i gyfyngu ar effeithiau’r afiechyd a’r anabledd ym mhob agwedd ar fywyd beunyddiol yr unigolyn.  Byddant yn ceisio gwella ansawdd bywyd pobl er mwyn iddynt fod mor gyfforddus, cynhyrchiol ac annibynnol ag y bo modd.

Mae gan yr Hosbis Therapydd Galwedigaethol rhan amser sy’n gallu cynnig cymorth ymarferol i gynorthwyo cleifion a’u teuluoedd.

Fe allai’r asesiadau a’r driniaeth gael eu cynnal yn yr Hosbis neu yng nghartref y person ei hunan.  Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, dechrau defnyddio technegau er mwyn cynorthwyo’r person i reoli’r symptomau sy’n deillio o’u hafiechyd neu gallai olygu trefnu offer er mwyn i’r person allu dal i fyw’n annibynnol.

Lawrlwytho canllaw hunangymorth i ddiffyg anadl a phryder (.pdf, 267kB)