Ffisiotherapi

Mae ffisiotherapi ar gael i unrhyw berson sydd wedi cael ei atgyfeirio i’r hosbis Gall pobl ddod yma fel claf allanol neu gallant drefnu i rywun eu gweld fel claf mewnol neu glaf gofal dydd. Os nad ydych wedi cael eich anfon i’r hosbis er mwyn cael triniaeth ond yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, cofiwch gysylltu â ni.
Nod ffisiotherapi yw cynyddu hyd yr eithaf eich annibyniaeth a’ch urddas, a lleddfu i ba raddau y mae afiechyd sy’n cyfyngu ar eich bywyd, yn cael effaith arnoch. Byddwch yn cael eich annog i bennu nodau realistig a bydd y ffisiotherapyddion yn eich cynorthwyo i’w cyflawni. Mae ffisiotherapyddion yn arbenigo ym maes symudiad corfforol pobl ac felly mae iddynt ran bwysig mewn cynghori pobl ynghylch rhaglenni ymarfer addas ac mewn cadw golwg ar sut y maent yn dod yn eu blaen bob cam o’r ffordd yn ystod eu hafiechyd. Bydd ffisiotherapyddion yn defnyddio sawl cam ymyrryd, ac yn eu plith mae hydrotherapi, Symbylydd Trawsgroenol i’r Nerfau, aciwbigo, technegau tylino, cyngor ynghylch ymarfer, ystum corff a gweithgareddau egnïol, a defnyddio cymhorthion cerdded.
Hydrotherapi
Defnyddio dwr mewn ffordd therapiwtig yw Hydrotherapi. Bydd cynhesrwydd y dwr yn lleddfu poen a bydd yr hynofedd yn cynorthwyo’r symud a gall gynorthwyo i gryfhau’r cyhyrau. Bydd Ffisiotherapydd yn pwyso a mesur a yw Hydrotherapi yn addas ar eich cyfer chi. Y pwll hydrotherapi yn Nhy’r Eos yw’r unig bwll mewn hosbis i oedolion yng Ngogledd Cymru. Mae’r pwll ar agor o foreau Llun - Iau ac mae ganddo lifftiau arbenigol er mwyn i bobl a phob math o anableddau allu ei ddefnyddio.
Lawrlwytho taflen am Hydrotherapi yn Nhy’r Eos (.pdf, 84kB)
Diffyg anadl (gwynt)
Mae diffyg anadl yn gallu peri gofid mawr i gleifion a’u teuluoedd. Gall ffisiotherapyddion a Therapyddion Galwedigaethol gynghori ac addysgu technegau i bobl sy’n eu cynorthwyo i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth ar y symptom hwn. Gall y rhain gynnwys ymarferion anadlu, ymlacio, ystum y corff a rhoi cyngor ynghylch gosod cyflymder y gweithgareddau a rheoli pryder.
Lawrlwytho canllaw hunangymorth i ddiffyg anadl a phryder (.pdf, 267kB)
Aciwbigo
Mae aciwbigo yn null y Gorllewin yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â meddyginiaeth y Gorllewin er mwyn lleddfu poen ac i drin symptomau eraill fel cyfog a phyliau o wres. Mae’r Ffisiotherapyddion yn Nhy’r Eos yn aelodau o Gymdeithas Ffisiotherapyddion Siartredig Aciwbigo (AACP). Mae hyn yn sicrhau eu bod wedi dilyn cwrs cydnabyddedig a’u bod wedi parhau i gael hyfforddiant yn rheolaidd.
Lawrlwytho taflen am Aciwbigo yn Nhy’r (.pdf, 42kB)
Codi a Chario
Weithiau bydd pobl yn cael mwy a mwy o broblemau symud ac efallai y bydd arnynt hwy a’u teuluoedd angen cyngor a hyfforddiant â thechnegau ac offer i’w cynorthwyo. Fe allai’r Ffisiotherapyddion ddweud yn union beth yw rhai o’r problemau hyn a gallant gydweithio â’r Therapyddion Galwedigaethol yn yr hosbis neu yn y gymuned er mwyn eu datrys.