Cymorth emosiynol a chymdeithasol

garden bench

Bydd tîm gwaith cymdeithasol yr hosbis yn cynorthwyo pobl i ddod drwy gyfnodau gofidus yn eu bywyd.  Byddant yn rhoi cymorth emosiynol ac ymarferol i bawb sydd wedi cael eu hatgyfeirio i’r hosbis.

Mae gofal a chymorth profedigaeth hefyd ar gael i aelodau teulu’r bobl hynny sydd wedi cael eu hatgyfeiro i’r hosbis.

Mae gweithwyr cymdeithasol wedi cael eu lleoli yn Hosbis Ty’r Eos – cliciwch yma er mwyn cael cyfarwyddiadau ynghylch sut mae cyrraedd yr Hosbis.  Gallwch eu cysylltu yn bersonol, dros y ffôn neu gydag e-bost.

  • Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
  • Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
  • Ffôn: 01978 316800

Os nad ydych chi nag aelod o’ch teulu wedi cael eich atgyfeirio i’r hosbis er mwyn cael triniaeth ond yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, cofiwch gysylltu â ni.

Lawrlwytho taflen wybodaeth ynghylch profedigaeth a gweler yn fformat pdf

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ofal profedigaeth yng Ngofal Profedigaeth Cruse

Release – cymorth profedigaeth ar gyfer plant

Mae’r hosbis hefyd yn darparu Release, sef gwasanaeth cymorth profedigaeth ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc o dan 19 oed ac sy’n byw yn y dalgylch. Byddwn yn derbyn unrhyw atgyfeiriadau i’r gwasanaeth Release o unrhyw ffynhonnell. Gall hyn gynnwys aelodau teulu, athrawon ysgol, nyrsys ysgol, Meddygon Teulu neu’r bobl ifanc eu hunain.

Lawrlwytho taflen wybodaeth am Release yn fformat pdf

Cliciwch yma i gael gwybodaeth gan Winston’s Wish yr elusen ar gyfer plant profedigaethus

Dyfyniadau gan bobl eraill

“Mae ganddynt rywun y gallwch chi gael gair â hwy – rhywun nad yw’n aelod o’r teulu.”