Cymorth bugeiliol ac ysbrydol

Y Dawelfan/Capel

Mae ein tîm o ofalyddion bugeiliol yn gweithio yn yr hosbis er mwyn rhoi cymorth a chefnogaeth i gleifion, ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr.

  • Byddwn yn rhoi cymorth trwy fod yn glust i wrando a thrwy roi gair cefnogol.
  • Gallwn hefyd gynorthwyo i drefnu bod eich anghenion crefyddol yn cael eu bodloni.
  • Os ydych chi’n meddwl y gallwn ni fod o gymorth, neu os hoffech gael sgwrs, mae croeso ichi gysylltu â ni.

Y Dawelfan/Capel

Mae hwn i’w gael ym mhrif adeilad yr hosbis. Mae wastad ar agor i bobl sydd am weddïo a myfyrio’n dawel ac mae’n ddiogelfan i bawb.

Mae yno ganhwyllau i’w cynnau, llyfr lle gallwch nodi’ch myfyrdodau, cardiau gweddi y gallwch eu gadael i’r tîm eu casglu os hoffech, a detholiad o lyfrau a thaflenni y gallwch eu benthyca.

Cysylltu â ni

Lleolir ein swyddfa y tu ôl i ddesg y brif dderbynfa yn yr hosbis a’r rhif estyniad yw 234.

Bydd un o aelodau ein tîm yn bresennol yn yr hosbis ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau’r wythnos, ac fe ddaw ef/hi i gyflwyno’i hun i’r cleifion ac yn y ward yn ystod y dyddiau cyntaf ar ôl i’r claf gael ei dderbyn, oni bai y gofynnir iddo/iddi beidio â gwneud hynny.

Yn aml byddwn yn treulio amser gyda’r cleifion yn yr Uned Gofal Dydd ac fel arfer byddwn ar gael i bawb.

Mewn achosion argyfwng neu angen brys, bydd un o’r staff yn gallu cysylltu ag un o aelodau’r tîm ar unrhyw adeg.

Os gofynnir inni wneud hynny byddwn yn hynod fodlon trefnu ymweliadau gan weinidog y claf ei hun, ni waeth pa enwad neu grefydd ydynt.

Ac mae croeso i’r staff, gwirfoddolwyr a’r ymwelwyr gysylltu ag aelod o’r tîm os byddant yn dymuno gwneud hynny.