Siopau elusen a Canolfan ddosbarthu

Yma yn Nhŷ’r Eos ein siopau Elusen yw enaid y gymuned leol ac maent yn ein symbylu i godi arian yn llwyddiannus. Mae ein siopau yn codi arian y mae arnom ei wir angen er mwyn i’r Hosbisau ddal ati i ddarparu gofal arbenigol yn rhad ac am ddim i’n cleifion sydd ag afiechydon sy’n cyfyngu ar eu bywyd, fel canser.
Yn ein siopau mae gennym nwyddau o safon uchel (dillad, dodrefn, offer trydanol a thrugareddau eraill) a gallwch chi gael bargeinion bendigedig ynddynt. Maent yn ganolfan i wirfoddolwyr brwdfrydig o bob oedran er mwyn iddynt allu ‘gwneud eu rhan hwy’ a meithrin cyfeillgarwch a fydd yn para am oes. Yn bwysicach na dim maent yn ffurfio cysylltiad cadarn rhwng yr elusen a’u cymuned leol.
Dyma lle mae ein siopau
Siop Hosbis Wrecsam - Gweld Map
36 Glan yr afon
Wrecsam
LL13 7LL
Ffôn: 01978 264519
Oriau agor: Dydd Llun i Sadwrn 9am – 4pm
Siop Hosbis Cefn Mawr - Gweld Map
Cambrian House
Stryd y Ffynnon
Cefn Mawr
LL14 3AE
Ffôn: 01978 810545
Oriau agor: Dydd Llun, Mawrth, Iau 9am – 4pm
Siop Hosbis Rhosllannerchrugog - Gweld Map
48 Stryt y Farchnad
Rhosllannerchrugog
LL14 2HY
Ffôn: 01978 846300
Oriau agor: Dydd Llun i Gwener 9am – 4pm
Siop Hosbis Bwcle – Gweld Map
3 Central Precinct
Bwcle
CH7 2EF
Ffôn: 01244 552084
Oriau agor: Dydd Llun i Sadwrn 9am – 4pm; Dydd Mercher 9am – 1pm
Y GANOLFAN DDOSBARTHU
Un o’r elfennau pwysicaf yn llwyddiant siopau Tŷ’r Eos yw’r gwaith, yn y cefndir, sy’n mynd rhagddo yn ein Canolfan Ddosbarthu sydd yn Lôn Rhosnesni, Wrecsam. Caiff y Ganolfan Ddosbarthu ei rheoli gan ein tîm manwerthu a’i staffio gan ein llu o wirfoddolwyr ac mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaeth hanfodol bwysig gan ei bod yn derbyn a didoli y mwyafrif helaeth o’r nwyddau sy’n cael eu rhoi inni, cyn iddynt gael eu dosbarthu i’r siopau.
Sut i roi rhywbeth yn anrheg inni
Mae gennym wasanaeth casglu am ddim ar gyfer rhoddion addas sy’n cael eu rhoi inni - pethau fel dodrefn neu nwyddau mwy. Byddwch cystal â ffonio ein Canolfan Ddosbarthu (01978 314292) er mwyn trefnu apwyntiad i’n gyrwyr ddod i’ch gweld.
Byddwn wastad yn ddiolchgar am y nwyddau ail law o safon uchel a gawn, sy’n cynnwys dillad, nwyddau’r cartref, teganau, llyfrau, Cryno-ddisgiau a DVD. Yn anffodus ni allwn ddod i nôl y pethau hyn ond gallwch chi eu danfon i’r Hosbis yn Ffordd Caer, neu i unrhyw un o’r siopau neu ein Canolfan Ddosbarthu.
Y Ganolfan Ddosbarthu + Yr Ystafell Arddangos Dodrefn - Gweld Map
120 Lôn Rhosnesni
Wrecsam
LL12 7NB
Oriau agor: Dydd Llun i Gwener 10am – 3.30pm;
Bydd ar agor yn hwyr ar ddydd Mercher tan 7pm
Ffôn: 01978 262589