Rhoi’n rheolaidd

Money cubes

Helpwch i wneud gwahaniaeth yn Nhŷ’r Eos eleni. Bydd eich rhodd chi yn gymorth i ni gynnig gofal a chymorth i’r bobl hynny yn y gymuned leol y mae arnynt eu hangen fwyaf.

Mae eich rhodd reolaidd chi yn hanfodol bwysig i ni. Bydd yn helpu i roi incwm cynaliadwy i ni i’r dyfodol.

Byddai rhoi £5.00 y mis yn rheolaidd yn talu am sesiwn brofedigaeth plentyn.

Byddai rhoi £.00 y mis yn rheolaidd yn talu am sesiwn brofedigaeth plentyn.

Sut mae’n gweithio?

Rydych chi’n gallu llenwi ffurflen Archeb Reolaidd (Bydd y ddolen hon yn mynd â chi at gopi y gallwch ei lawrlwytho). Unwaith y byddwch chi wedi llenwi’r ffurflen byddwch mor garedig â’i dychwelyd hi atom ni yma yn yr Hosbis a byddwn ni’n ei hanfon ymlaen i’ch banc ar eich rhan.

Mwy o wybodaeth

Os oes arnoch chi eisiau holi ynghylch unrhyw beth, mae croeso i chi gysylltu â’n Tîm Gweinyddol a fydd yn hapus i’ch helpu chi ar 01978 314292

Ciwbiau Arian

Mae ciwb arian yr Hosbis i’r dim ar gyfer casglu’r darnau hynny o arian sy’n mynd o hyd i gefn y soffa, ar gyfer unrhyw newid mân sy’n pwyso yn eich waled neu yng ngwaelod eich bag llaw.  Gallwch eu rhoi i gyd yn un o giwbiau arian yr Hosbis i’w rhoi i’r hosbis.  Y llynedd wnaethoch chi ein helpu ni i gasglu £10,000

Rhowch un lle bynnag y mynnwch chi – ar y pentan, desg y swyddfa neu unrhyw le y byddech chi’n rhoi eich newid mân. Mae ciwbiau arian ar gael gan yr Hosbis.  Ffoniwch 01978 314292 neu ddod i nôl un o Hosbis Tŷ’r Eos, Ffordd Caer, Wrecsam.