Gwybodaeth i ymgeiswyr
Cynghorir ymgeiswyr i ddarllen yr wybodaeth hon cyn ymgeisio am swyddi gwag
Ynglŷn â Thŷ’r Eos
Mae Tŷ’r Eos yn darparu gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol i gleifion a’u teuluoedd ledled ardal eang sy’n ymestyn o Wrecsam, Sir Y Fflint, Dwyrain Sir Ddinbych draw i’r Bermo a threfi’r ffin yn cynnwys Croesoswallt a’r Eglwys Wen.
Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys ward gyda gwelyau ar gyfer16 o gleifion mewnol, uned gofal dydd sy’n gofalu am gymaint â 15 o gleifion pob dydd, clinig cleifion allanol, therapi galwedigaethol, therapïau cyflenwol, ffisiotherapi yn cynnwys pwll hydrotherapi, gwasanaeth ambiwlans yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau cymorth galar fel Release, gwasanaeth arbenigol ar gyfer plant ac oedolion ifanc. Mae’r holl wasanaethau yn rhad ac am ddim i gleifion a theuluoedd.
Gofal Lliniarol Arbenigol
Gofal lliniarol arbenigol yw’r gofal cyfan a gweithredol a roddir i gleifion gyda chlefyd cynyddol nad oes modd ei wella a rhagolygon cyfyngedig, a’u teuluoedd, gan dîm o amryw o broffesiynau sydd wedi derbyn hyfforddiant cydnabyddedig ar gyfer gofal lliniarol arbenigol. Mae’r Cymorth a gynigir yn gyfannol ac mae’n cynnwys cymorth corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol. Mae’n cynnwys ymarferwyr gydag amrywiaeth eang o sgiliau yn cynnwys gofal meddygol a nyrsio, gwaith cymdeithasol, gofal bugeiliol/ysbrydol, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a fferylliaeth.
Gwasanaethau cleifion mewnol a gofal dydd
Mae uned y cleifion mewnol yn darparu gofal arbenigol 24 awr mewn amgylchedd cartrefol a chyfeillgar. Gellir derbyn cleifion ar gyfer rheoli symptomau, asesiad ac adsefydliad lliniarol neu yn ystod dyddiau neu wythnosau olaf bywyd. Mae Gofal Dydd yn rhoi cyfle i gleifion gyda salwch sy’n cyfyngu ar fywyd ddod at ei gilydd mewn lle cyfforddus a gofalgar, ac mae hefyd yn lle i fynd am wasanaethau lliniarol arbenigol eraill y mae’r hosbis yn eu cynnig. Mae tîm o weithwyr o nifer o broffesiynau yn darparu gofal, yn cynnwys nyrsys, meddygon, ffisiotherapyddion, therapyddion cyfannol, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr cymdeithasol gyda chymorth y gweithwyr cadw tŷ, cymorth gweinyddol, cynnal a chadw ac arlwyo, yn ogystal â thîm o wirfoddolwyr.
Clinigau Cleifion Allanol
Mae’r hosbis yn cynnig cymorth dilyniannol ac mae’n parhau i gadw golwg ar symptomau’r cleifion a’r modd y maent yn ymdopi gartref trwy ddarparu gwasanaeth clinig meddygol cleifion allanol.Cynhelir y clinigau am dri diwrnod bob wythnos ond mae mynychder y clinigau yn gallu ymateb i anghenion lleol.
Gofal Bugeiliol ac Ysbrydol
Mae’r tîm o ofalwyr bugeiliol yn cynnig cymorth a chefnogaeth i gleifion, ymwelwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr trwy gynnig clust sy’n gwrando a llais cefnogol. Maent yn gallu helpu hefyd i drefnu ar gyfer anghenion crefyddol y claf.
Ffisiotherapi a Hydrotherapi
Mae llawer y symptomau y gellir eu helpu neu eu rheoli trwy ymyrraeth ffisiotherapi. Mae’r rhain yn cynnwys diffyg anadl, poen, gwendid, stiffrwydd a diffyg symudedd. Mae ffisiotherapyddion yn gallu cynnig cyngor, rhaglenni ymarfer, dulliau corfforol o leddfu poen (e.e. aciwbigo) a chymorth gyda symudedd. Maent hefyd yn gallu cynghori gofalyddion ynglŷn â’r dulliau gorau o helpu.
Therapi Galwedigaethol
Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn asesu anghenion yr unigolyn a’r rhai sy’n gofalu amdano/amdani, gydag ystyriaeth i bob agwedd gorfforol, emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol ar eu bywydau.
Therapïau Gwrthdyniadol / Cyflenwol
Mae’r cleifion yn gallu mynd am ddewis eang o therapïau gwrthdyniadol a chyflenwol yn yr hosbis.
Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd
GWASANAETH GWAITH CYMDEITHASOL – Mae gweithwyr cymdeithasol ar gael i helpu, cefnogi a chynghori cleifion a’u teuluoedd gyda nifer o wahanol faterion yn cynnwys materion ymarferol, ariannol ac emosiynol.
GWASANAETH GALAR – Cynigir cymorth mewn galar i berthnasau sydd newydd golli un o’u hanwyliaid yr oedd Tŷ’r Eos yn gofalu amdano/amdani. Mae grwpiau cymorth hefyd sy’n fodd i bobl mewn galar gyfarfod a helpu ei gilydd.
RELEASE – Cymorth mewn Galar i Blant a Phobl Ifanc. Rydym yn gallu cynnig cymorth mewn galar i unrhyw blentyn y mae rhywun sy’n annwyl iddo/iddi wedi marw. Rydym hefyd yn cefnogi plant sy’n byw gydag anwyliaid sy’n sâl iawn. Mae hwn yn wasanaeth hyblyg a fydd yn rhoi sylw i anghenion plant a theuluoedd.
TELERAU AC AMODAU CYFFREDINOL CYFLOGAETH
Meddygol
Nid yw’r broses hon fel arfer yn cynnwys archwiliad corfforol. Anfonir holiadur at yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae’n rhaid llenwi hwn a’i anfon ymlaen i’r adran Iechyd Galwedigaethol. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod wedi ei ddatgan yn iach cyn dechrau yn y swydd.
Cymwysterau / Cymwysterau Proffesiynol
Cynigir penodiadau ar yr amod bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi tystiolaeth o gymhwyster (cymwysterau) proffesiynol a chofrestriad proffesiynol sy’n parhau.
Tystlythyrau
Mae pob cynnig o swydd yn amodol ar dderbyn dau dystlythyr sy’n foddhaol gan yr Hosbis.
Contract – Cyfnod Rhybudd
Mae angen 1 wythnos o rybudd, gan y naill ochr a’r llall, yn ystod y cyfnod prawf a 4 wythnos wedi hynny.
Cyfnod Prawf
Mae penodiad pob gweithiwr yn amodol ar 6 mis o gyfnod prawf.
BUDD-DALIADAU GWEITHWYR CYFLOGEDIG
Pensiwn
Fel arfer bydd Hosbis Tŷ’r Eos yn talu cyfraniad o 4% o’r cyflog i mewn i’ch pensiwn preifat os oes un gennych chi. Mae mynediad i bensiwn y GIG ar gyfer gweithwyr clinigol yn amodol ar feini prawf penodol. Cysylltwch â’r adran AD am fwy o fanylion.
Sicrwydd yswiriant bywyd
Sicrwydd Yswiriant Bywyd Marw mewn Gwasanaeth cyfwerth â dwywaith y cyflog sylfaenol ar gyfer pob gweithiwr nad oes ganddo/ganddi sicrwydd Cynllun Blwydd-dal y GIG.
Gwyliau
25 diwrnod y flwyddyn ac 8 o Wyliau Banc ar gyfer gweithwyr amser llawn, (pro rata ar gyfer oriau rhan amser). Mae hyn yn codi pob 2 flynedd hyd at uchafswm o 32 o ddyddiau gyda Gwyliau Banc wedi 10 mlynedd o wasanaeth yn amodol ar bolisi gwyliau.
Tâl Salwch
Yn ystod y flwyddyn gyntaf o wasanaeth hyd at 5 diwrnod o dâl salwch contract yna Tâl Salwch Statudol
Yn yr ail flwyddyn o wasanaeth, hyd at 10 diwrnod o dâl salwch contract yna Tâl Salwch Statudol
O’r drydedd flwyddyn o wasanaeth, hyd at 26 wythnos o dâl salwch contract a hyd at 26 wythnos o hanner cyflog contract, y ddau yn cynnwys Tâl Salwch Statudol. Mae’r uchod yn pro-rata ar gyfer gweithwyr rhan amser.
Gŵyl y Banc
Gwneir taliad ychwanegol o £25.00 i rai sy’n gweithio gwyliau banc cyfan neu ran ohonynt. Mae’r taliad hwn ar gyfer neb ond y gweithwyr hynny sy’n gorfod gweithio Gŵyl y Banc e.e. cleifion mewnol, y gegin, cadw tŷ.
Cynllun gofal plant aberthu cyflog
Mae Hosbis Tŷ’r Eos yn gweithredu’r cynllun uchod ar y cyd â Gwasanaethau Tocyn Computershare. Mae tocynnau gofal plant yn fudd-dal i weithwyr cyflogedig sydd ar gael i bob rhiant cymwys.