Ein cennad

Hospice sign with flowers

Datganiad Cennad

Darparu gofal lliniarol arbenigol i gleifion gyda chlefydau penodol sy’n cyfyngu ar fywyd yn nalgylch Ymddiriedolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ac ardaloedd y ffin a chefnogi eu teuluoedd mewn amgylchedd gofalgar.  Bydd hyn yn cael ei wneud gan dîm amlddisgyblaethol wedi’u hyfforddi’n arbenigol a fydd yn darparu rheolaeth ar symptomau, asesiad, gofal terfynol a chefnogaeth emosiynol barhaol i berthnasau a gofalyddion, cymorth mewn galar, addysg a gwybodaeth.

Nodau

  • Darparu gofal corfforol, emosiynol, ysbrydol a chymdeithasol i’r cleifion a’u teuluoedd yn unol â’u hanghenion
  • Darparu gofal iechyd o’r radd flaenaf mewn amgylchedd priodol a diogel trwy weithredu fel tîm o nifer o weithwyr proffesiynol amrywiol
  • Cydymffurfio ag a rhagori lle bynnag y bo modd ar Safonau Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Lliniarol Arbenigol
  • Datblygu partneriaethau gwaith cydweithredol gyda darparwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn yr economi iechyd leol
  • Darparu gofal arbenigol i gleifion 18 oed a mwy, beth bynnag yw eu rhyw, cred, crefydd neu ddiwylliant.  Mae gofal yr hosbis yn rhad ac am ddim i’r cleifion yn y man darparu
  • Hyrwyddo ansawdd bywyd a rheoli symptomau yn effeithiol
  • Cynnig modd marw’n naturiol gydag urddas mewn cydweithrediad â chlaf gyda salwch terfynol a’i deulu / ei theulu
  • Darparu gofal wedi ei lunio’n arbennig ar gyfer yr unigolyn, gan barchu urddas, preifatrwydd, cyfrinachedd a Dewis Gwybodus
  • Darparu gofal 24 awr i gleifion mewnol, gan barchu hawl y cleifion i fod yn annibynnol
  • Darparu uned ddydd weithgar sy’n canolbwyntio ar egwyddorion adsefydlu a gofal cefnogol
  • Darparu cyfleusterau priodol ar gyfer cleifion allanol a fydd yn cefnogi cleifion yn y gymuned yn cynnwys:
    • Ffisiotherapi
    • Hydrotherapi
    • Therapi Galwedigaethol
    • Clinig Meddygol Cleifion Allanol
    • Therapi cyflenwol
  • Darparu gwasanaeth galar i’r teulu, cyn ac wedi marwolaeth y claf, ac i blant hyd at 19 oed yn y gymuned sy’n mynd trwy brofedigaeth
  • Darparu addysg a hyfforddiant, a chymell gweithwyr, yn cynnwys pob gwirfoddolwr, i lefel briodol o fedrusrwydd ac arbenigedd, er mwyn ymgyrraedd at y safonau uchaf o ofal yn yr hosbis a’r gymuned
  • Darparu systemau priodol a digonol ar gyfer cefnogi gweithwyr
  • Darparu cyfuniad o gyngor ffurfiol ac anffurfiol i ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol trwy Linell Gyngor 24 Awr Hosbis Tŷ’r Eos
  • Darparu lefel briodol o wasanaethau gweinyddol i gynnal gwaith yr hosbis
  • Sefydlu a chynnal tîm a strategaeth effeithiol i godi arian ar gyfer gwasanaeth cynaliadwy
  • Cynnal Bwrdd o Ymddiriedolwyr gwybodus